Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA151
Teitl: The Education (Student Loans) (Repayment) (Amendment) (No.2) Regulations 2012 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn, sy’n gymwys i Gymru a Lloegr yn unig (ac eithrio Rheoliad 11 sy’n gymwys i’r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd) yn diwygio ymhellach y Rheoliadau, The Education (Student Loans) (Repayment) Regulations 2009 (OS 2009/470). Mae’r gwelliannau yn cyflwyno newidiadau i’r system ad-dalu a lefel y llog y bydd benthyciadau dibynnol ar incwm i fyfyrwyr yn ei chronni yn achos unigolion sydd wedi dechrau eu hastudiaethau ar ôl y flwyddyn academaidd 2012/13.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn:-
Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u paratoi yn Saesneg yn unig.
(Rheol Sefydlog 21.2 (ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg).
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mai 2012
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2012
Bydd y Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac maent yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn nau dŷ Senedd y DU. Oherwydd y bydd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i graffu gan Senedd y DU, nid ystyrir ei bod hi’n rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei osod, na’i wneud, yn ddwyieithog.